event_id:7
event_tag:addysg
event_found_and_active:1
event_data:Set
bypass_code:xxx-xxx-xxx
is_teacher:
is_pupil:
is_virtual:1
show:
display:show_event_contents
checked_in:
participant_checked_in:
public:1
time:ongoing
is_timed_event:0
sneakpeek:
show_guidelines_to_exercise:
Cyfres insport | Chwaraeon Anabledd Cymru
X Close

Opsiynau Hygyrchedd

Mae'r opsiynau hyn yn gofyn am gwcis i arbed eich dewisiadau.

Maint testun

Os gallwch chi gynyddu'r lefel chwyddo ar eich porwr neu ddyfais, gallai hynny ddarparu'r profiad gorau o ddefnyddio'r wefan hon gyda thestun mwy. Os na allwch neu os nad ydych yn gwybod sut, mae gennym bedwar opsiwn maint testun i chi ddewis ohonynt.

Dewiswch eich opsiwn gorau:

Bach
Canolig
Mawr
Fwy
Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:

Defnydd arferol o Priflythrennau
Llai o ddefnydd o Priflythrennau
Pwysau Ffont

Rydym yn defnyddio gwahanol bwysau ffont ar draws y wefan hon i helpu i wahanu teitlau, dolenni, botymau ac ati oddi wrth destun paragraff. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd darllen pwysau ffont canolig, gallwch ddewis gwneud yr holl destun ar y wefan hon bold.

Dewiswch eich opsiwn gorau:

Pwysau ffont safonol
Defnyddiwch ffontiau bold ym mhobman
Opsiynau Cyferbynnedd

Rydym wedi ceisio sicrhau bod hyd yn oed yr opsiwn cyferbynnedd Safonol yn cynnig cyferbyniad a darllenadwyedd gwych, ond gallwch ddewis galluogi fersiwn Cyferbynnedd Uchel os yw'n well gennych hynny.

Dewiswch eich opsiwn gorau:

Safonol
Cyferbynnedd Uchel
Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau:

Animeiddiadau Wedi'u Galluogi
Llai o Gynnig
X Caewch Opsiynau Hygyrchedd

EnglishOpsiynau Hygyrchedd

Cyfres insport: Addysg

Hydref 1 2021

Bydd y digwyddiad ar-lein yma yn cynnig syniadau i'ch ysgol ar weithgaredd corfforol cynhwysol sy'n gysylltiedig ag iechyd a lles ac yn cysylltiedig i'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Gymnasteg Cymru, Athletau Cymru, Urdd a Badminton Cymru.



Cyfarwyddyd Cynllun Gwers

Mae Cwricwlwm i Gymru, 2022, yn cyflwyno gweledigaeth newydd feiddgar ar gyfer y cwricwlwm ac mae’n cael ei arwain gan nodau penodol; dyma'r Pedwar Diben. Mae'r Pedwar Diben wedi'u cynllunio i arwain holl weithgareddau dysgu ac addysgu.

Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y cynlluniau gwersi sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hon, yn galluogi dysgwyr i:

  • Ddatblygu hyder a chymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon i fod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Datblygu cymhelliant, gwytnwch, a gallu i wneud penderfyniadau i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • Rheoli risgiau, mynegi syniadau, cymryd rhan mewn gwaith tîm, ymgymryd â gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau, i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • Dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd drwy ddatblygu eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant, gwrando ar eraill a gwerthuso'r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r cynlluniau gwersi wedi'u datblygu gan ddefnyddio disgrifiad o ddysgu (DODd) o fewn y datganiad Yr Hyn Sy'n Bwysig, Mae gan Iechyd a Lles Corfforol fuddion gydol oes. Mae'r DODd eang wedi'u trosi i Fwriadau Dysgu, ynghyd â Meini Prawf Llwyddiant.

Mae'n bwysig nodi y gellir addasu'r holl gynlluniau gwersi sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd i ddarparu cyfleoedd dysgu drwy brofiad ar draws pob datganiad o’r Hyn Sy'n Bwysig yn y Maes Dysgu a Phrofiad, Iechyd a Lles.

Bwriad y cynlluniau gwersi sydd wedi'u cynnwys yn yr adnodd hwn yw darparu arweiniad ac enghraifft o sut gall Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon fod yn gynhwysol a chefnogi cynnydd mewn dysgu o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Mae'r adnodd plentyn-ganolog hwn yn darparu enghreifftiau o wersi a sut gellir defnyddio STEP i wahaniaethu rhwng tasgau, gan arwain at her briodol.

Ni all adnodd plentyn-ganolog ddarparu set gynhwysfawr o gynlluniau gwersi oherwydd bydd angen i wersi yn y dyfodol ystyried y cynnydd a wneir gan ddysgwyr cyn cynllunio'r wers nesaf yn y gyfres. Felly, bydd angen i asesiad athrawon a barn broffesiynol ystyried anghenion unigolion a chynllunio gweithgareddau blaengar priodol i gyflawni'r bwriad dysgu.

Hefyd mae pob cynllun gwers yn rhoi syniad o'r amser i'w dreulio ar weithgareddau. Fodd bynnag, arweiniad yn unig yw'r amser a awgrymir ar gyfer pob gweithgaredd.


I wneud cynnydd rhwng tasgau, ystyriwch y canlynol:

Beth allech chi ei weld:
Dysgwyr yn cymryd rhan, cael hwyl a dysgu. Cynnydd yn weladwy.

Beth i’w wneud:
Parhau â’r dasg.

Beth allech chi ei weld:
Rhai dysgwyr yn colli diddordeb ac heb wneud llawer o gynnydd, efallai eu bod yn teimlo bod y gweithgaredd naill ai’n rhy anodd neu’n rhy hawdd.

Beth i’w wneud:
Defnyddio egwyddor STEP i wahaniaethu rhwng y gweithgarwch a darparu her fwy priodol.

Beth allech chi ei weld:
Dysgwyr wedi gwneud cynnydd gyda’u dysgu ac yn dechrau ymddieithrio oddi wrth y gweithgaredd.

Beth i’w wneud:
Symud y dysgwyr hynny ymlaen i’r gweithgaredd nesaf. Nid oes raid i’r holl ddysgwyr symud ymlaen i’r gweithgaredd nesaf ar yr un pryd (Dull o weithredu dan arweiniad y plentyn)


STEP a SMILES

Mae dull seiliedig ar lythrennedd corfforol o weithredu’n gyfannol, yn gynhwysol, ac yn cefnogi anghenion pob dysgwr. Felly, mae gwahaniaethu yn ofyniad allweddol. Un dull defnyddiol o gefnogi gwahaniaethu yw ystyried Gofod, Tasg, Offer, Pobl (STEP). Ar ben hynny, sicrhau bod dysgwyr a phrofiadau yn: Ddiogel (amgylchedd emosiynol a chorfforol), bod Cyfranogiad Mwyaf Posib, pob dysgwr wedi'i Gynnwys, y profiad yn canolbwyntio ar Ddysgu, yn Bleserus ac yn Canolbwyntio ar Lwyddiant (SMILES).


Diolch i Gethin Mon Thomas (g.m.thomas@bangor.ac.uk) sydd wedi cefnogi datblygiad y cynnwys seiliedig ar lythrennedd corfforol ar gyfer yr adnoddau hyn.


Lawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Chwaraeon Raced

Cynllun Gwers Chwaraeon Raced



01 Ras Gyfnewid

02 Ras Gyfnewid Tapio Balŵn

03 Ras Gyfnewid Tapio Balŵn mewn Parau

04 Ras Gyfnewid Tapio Balŵn mewn Parau gyda Raced

05 Taflu a Tharo

06 Rali Badminton


Dolen at y pedwar diben:
Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers hon yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • datblygu hyder a chymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon i ddod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • datblygu cymhelliant, gwytnwch, a gallu i wneud penderfyniadau i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • rheoli risgiau, mynegi syniadau, cymryd rhan mewn gwaith tîm, ymgymryd â gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau, i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd drwy ddatblygu eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers ganlynol yn cefnogi’r dysgu a ddisgrifir yn y datganiad o’r Hyn sy'n Bwysig:
Mae datblygu iechyd a lles ein corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Yn benodol, mae'r cynllun gwers hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Cam Cynnydd 3

Rwy’n gallu datblygu a chymhwyso ystod o sgiliau mewn sefyllfaoedd cyfarwydd, anghyfarwydd a chyfnewidiol, gan archwilio gofod yn greadigol mewn ymateb i amrywiaeth o symbyliadau. Rwy’n gallu ysgogi fy hun i ymwneud â gweithgareddau corfforol cyson a chwaraeon yn hyderus, ac rwy’n ymwybodol o’m cynnydd fy hun.


Sgiliau a ddatblygir:

Taro gwrthrych sy’n symud ac anfon gwrthrych yn fanwl gywir at bartner


Bwriad Dysgu

Rydym yn dysgu sut i Daro / Anfon gwrthrych sy’n symud, at bartner


Meini Prawf Llwyddiant

  1. Gallaf daro gwrthrych sy’n symud
  2. Gallaf ddefnyddio ergyd floc i daro gwrthrych sy'n symud
  3. Gallaf daro gwrthrych, gan ei osod yn gywir i bartner i’w ddychwelyd

STEP






Gweithgareddau

01 Ras Gyfnewid

Offer

Ar gyfer y gweithgaredd yma bydd arnoch angen conau neu farcwyr.

Sut i chwarae

Rhannu’r disgyblion yn grwpiau bychain a dynodi côn i bob tîm


  • Gosod dwy linell o farcwyr o amgylch 15 metr ar wahân        
  • Un ar y tro, y disgyblion yn gorfod symud ymlaen tuag at y côn gyferbyn â hwy, ar ôl cyrraedd yno, byddant yn symud am yn ôl wedyn, yn ôl at y côn cychwynol
  • Ar ôl iddynt ddychwelyd, bydd y disgybl nesaf yn y tîm yn dechrau
  • Y tîm cyntaf i gael ei holl ddisgyblion i gwblhau’r cwrs sy’n ennill

02 Ras Gyfnewid Tapio Balŵn

Offer

Ar gyfer y gweithgaredd yma bydd arnoch angen conau neu farcwyr.

Sut i chwarae

Rhannu’r dysgwyr i fewn i grwpiau bychain a dynodi côn i pob tîm


  • Gosod dwy linell o farcwyr o amgylch 15 metr ar wahân      
  • Un ar y tro, rhaid ir dysgwyr symud ymlaen tuag at y côn gyferbyn â hwy gan daro balŵn, ar ôl cyrraedd yno, byddant yn symud am yn ôl wedyn, yn ôl at y côn dechrau
  • Bydd pob dysgwr yn cael un falŵn
  • Ar ôl iddynt ddychwelyd, bydd y dysgwr nesaf yn y tîm yn dechrau
  • Y tîm cyntaf i gael ei holl ddysgwyr i gwblhau’r cwrs sy’n ennill

03 Ras Gyfnewid Tapio Balŵn in Pairs

Offer

Ar gyfer y gweithgaredd yma bydd arnoch angen balwnau, conau neu farcwyr

Sut i chwarae

Rhannu’r disgyblion yn grwpiau bychain a dynodi côn i bob tîm


  • Gosod dwy linell o farcwyr o amgylch 15 metr ar wahân         
  • Mewn parau, rhaid i’r dysgwyr symud ymlaen tuag at y côn gyferbyn â hwy gan daro balŵn yn ôl ac ymlaen at ei gilydd, ar ôl cyrraedd yno, byddant yn symud am yn ôl wedyn, yn ôl at y côn dechrau.
  • Bydd pob pâr yn cael un falŵn.
  • Ar ôl iddynt ddychwelyd, bydd y pâr nesaf yn dechrau
  • Y tîm cyntaf i gael ei holl ddysgwyr i gwblhau’r cwrs sy’n ennill

04 Ras Gyfnewid Tapio Balŵn mewn parau gyda Raced

Offer

Ar gyfer y gweithgaredd yma bydd arnoch angen Racedi Badminton, Balwnau, Conau neu Farcwyr

Sut i chwarae

Rhannu’r dysgwyr yn grwpiau bychain a dynodi côn i bob tîm.


  • Gosod dwy linell o farcwyr o amgylch 15 metr ar wahân
  • Mewn parau, rhaid i’r dysgwyr symud ymlaen tuag at y côn gyferbyn â hwy gan daro balŵn gyda raced yn ôl ac ymlaen at ei gilydd, ar ôl cyrraedd yno, byddant yn symud am yn ôl wedyn, yn ôl at y côn dechrau
  • Bydd pob pâr yn cael un falŵn
  • Ar ôl iddynt ddychwelyd, bydd y pâr nesaf yn dechrau
  • Y tîm cyntaf i gael ei holl ddysgwyr i gwblhau’r cwrs sy’n ennill

05 Taflu a Tharo

Throw and Hit illustration

Offer

Ar gyfer y gweithgaredd yma bydd arnoch angen raced, gwennol, conau neu farcwyr

Sut i chwarae

Rhoi’r dysgwyr mewn parau


  • Un dysgwr yn anfonwr a’r llall yn taro
  • Yr anfonwr yn taro’r wennol i’w bartner sy’n gorfod ei dychwelyd drwy ei tharo’n ôl at yr anfonwr
  • Ar ôl 5 cynnig, y partneriaid yn cyfnewid rôl

06 Rali Badminton

Rali Badminton illustration

Offer

Ar gyfer y gweithgaredd yma bydd arnoch angen raced, gwennol, conau neu farcwyr

Sut i chwarae

Pob pâr yn cael ardal benodol


  • Rhoi’r dysgwyr mewn parau.
  • Dysgwyr yn gorfod taro gwennol yn ôl ac ymlaen i’w gilydd gymaint o weithiau ag y gallant

Ystyriaethau o ran Namau

Yn y tabl isod mae canllawiau ar sut i gynnwys dysgwyr â gwahanol namau yn y wers ond y ffordd orau o gynnwys dysgwr anabl yw drwy ddod i wybod am ei allu swyddogaethol a'r hyn y GALL EI WNEUD. Bydd hyn yn ei alluogi i gael profiad gwych mewn gwers AG.

Awtistiaeth

Rhoi amser i'r dysgwyr brosesu'r wybodaeth

Rhoi amser iddo roi cynnig ar y gweithgaredd cyn rhoi rhai pwyntiau addysgu

Peidio â defnyddio idiomau na throsiadau

Osgoi dibynnu ar ystum, mynegiant wyneb neu dôn llais

Bod yn ymwybodol o sensitifrwydd i sŵn / golau

Dall / Nam ar y Golwg

Dod i wybod beth yw lefel golwg y dysgwyr

Cynnig amrywiaeth o offer sy'n cynnwys gwahanol liwiau a meintiau e.e. Raced tennis neu felyn llachar

Y defnydd o sain i helpu dysgwyr i gymryd rhan e.e. cloch ar wennol fawr neu gyfarwyddiadau llafar

Cynnig tywysydd neu gyfaill

Dysgwyr eraill i wisgo bibiau llachar

Byddar / Nam ar y Clyw

Lleoli eich hun fel bod y dysgwr yn gallu eich gweld chi

Siarad yn glir ac yn gryno i gefnogi darllen gwefusau

Rhoi arddangosfa ar gyfer pob gweithgaredd

Ysgrifennu cyfarwyddiadau

Cytuno ar signalau ar gyfer dechrau a stopio gweithgaredd

Defnyddio technoleg i roi arddangosfa

e.e., Ap Amser Gwennol

Anabledd Dysgu

Dangos yr holl weithgareddau - defnyddio technoleg os oes angen

Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr

Rhannu gweithgareddau yn adrannau llai

Cynnig amrywiaeth o offer i ddysgwyr er mwyn sicrhau llwyddiant

Gellir anfon gwennol o linyn crogi yn lle ei thaflu
Photo of shuttlecock suspended from a cord

Nam Corfforol

Gellir cwblhau gweithgaredd taflu / taro yn eistedd

Ar gyfer chwaraewyr llai deheuig, ystyriwch ddefnyddio gwrthrychau hawdd gafael ynddyn nhw e.e. grip tac

Defnyddio offer ysgafnach e.e. raced byrrach

Defnyddio offer mwy er mwyn llwyddo e.e. raced pen mwy, gwennol fwy neu bêl fflwff

Gellir anfon gwennol o linyn crogi yn lle ei thaflu
Photo of shuttlecock suspended from a cord

Defnyddiwr Cadair Olwyn

Gellir cwblhau gweithgaredd taflu / taro yn eistedd

Ar gyfer chwaraewyr llai deheuig, ystyriwch ddefnyddio gwrthrychau hawdd gafael ynddyn nhw e.e. grip tac

Defnyddio offer ysgafnach e.e. raced byrrach

Defnyddio offer mwy er mwyn llwyddo e.e. raced pen mwy, gwennol fwy neu bêl fflwff

Gellir anfon gwennol o linyn crogi yn lle ei thaflu.Photo of shuttlecock suspended from a cord


SMILES

Gwnewch yn siŵr bob amser bod cyfleoedd a phrofiadau mewn Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn cydymffurfio ag ethos SMILES (edrychwch ar y Cyfarwyddyd Cynllun Gwers)

Diogel - corfforol, cymdeithasol ac emosiynol

Cyfranogiad Gorau Posibl - cynhwysiant

Wedi'i gynnwys - llais y dysgwr

Canolbwyntio ar ddysgu

Mwynhad

Ffocws ar Lwyddiant



Lawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Chwaraeon RacedLawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Boccia

Cynllun Gwers Boccia



01 Gollwng Cerrig Crynion

02 Sgitls Bag Ffa

03 Yn y Parth Sgorio

04 Gêm Anelu Boccia


Dolen at y pedwar diben:
Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers hon yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • datblygu hyder a chymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon i ddod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • datblygu cymhelliant, gwytnwch, a gallu i wneud penderfyniadau i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • rheoli risgiau, mynegi syniadau, cymryd rhan mewn gwaith tîm, ymgymryd â gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau, i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd drwy ddatblygu eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers ganlynol yn cefnogi’r dysgu a ddisgrifir yn y datganiad o’r Hyn sy'n Bwysig:
Mae datblygu iechyd a lles ein corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Yn benodol, mae'r cynllun gwers hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Cam Cynnydd 1

Gallaf ddefnyddio a gwella sgiliau symud sylfaenol mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd. Gallaf ymateb i awgrymiadau mewn ffyrdd dychmygus a chreadigol. Mae gen i’r hyder a’r cymhelliant i ddyfalbarhau wrth wynebu heriau corfforol.


Sgiliau a ddatblygir:

Anfon gwrthrych at darged e.e. Rholio o dan y Fraich, Taflu o dan y Fraich, Rholio gwrthrych i lawr ramp / saethu tuag at darged


Bwriad Dysgu

Rydym yn dysgu anfon gwrthrych i daro targed


Meini Prawf Llwyddiant

  1. Gallaf anfon gwrthrych i daro targed
  2. Gallaf anfon gwrthrych i rwystro gwrthwynebydd
  3. Gallaf anfon gwrthrych i daro targed gan ddefnyddio ystod o wahanol dechnegau

STEP






Gwetihgareddau

01 Gollwng Cerrig Crynion

Gollwng Cerrig Crynion illustration

Offer

Gwrthrychau Taflu: Peli Boccia, Bagiau Ffa, Rampiau

Targedau: Cylchoedd, conau, sialc ac ati.

Sut i Chwarae

Gosod ystod o dargedau o amgylch yr ardal chwarae


  • Gellir gosod marcwyr bellter penodol oddi wrth bob targed er mwyn rhoi syniad i ddisgyblion o ble i ddechrau
  • Rhaid i ddisgyblion anfon eu gwrthrych tuag at bob targed o safle llonydd
  • Disgyblion yn adfer eu gwrthrych ar ôl iddynt roi cynnig arni
  • Gall disgyblion ddefnyddio ystod o wrthrychau i’w hanfon tuag at y targed

02 Sgitls Bag Ffa

Sgitls Bag Ffa illustration

Offer

Gwrthrychau Taflu: Bagiau Ffa, Peli Boccia, Rampiau

Targedau: Sgitls

Sut i Chwarae

Rhannu’r disgyblion yn ddau dîm cyfartal


  • Y timau’n sefyll tua 10 troedfedd oddi wrth ei gilydd
  • Rhoi dwy res o sgitls / poteli plastig rhwng y ddau dîm
  • Neilltuo’r rhes sydd bellaf i ffwrdd i bob tîm
  • Gan ddefnyddio bagiau ffa a pheli, y timau’n ceisio taro eu rhes eu hunain o sgitls drosodd
  • Disgyblion i archwilio gwahanol ffyrdd o anfon y gwrthrychau tuag at y targedau
  • Y tîm cyntaf i wneud hynny’n llwyddiannus yw’r enillydd

03 Yn y Parth Sgorio

Yn y Parth Sgorio illustration

Offer

Gwrthrychau Taflu: Bagiau Ffa, Peli Boccia, Rampiau

Targedae: Parasiwt, Cylchoedd, Conau, Sialc, Casys Gobennydd

Sut i Chwarae

Gellir ei chwarae mewn grwpiau bychain, parau neu’n unigol.


  • Marcio parth sgorio, gan neilltuo gwahanol bwyntiau i bob ardal yn y parth.
  • Y chwaraewyr yn sgorio drwy anfon peli i’r parth sgorio.
  • Rhaid i’r chwaraewyr daflu bob yn ail.

04 Gêm Anelu Boccia

Y Gêm Nod illustration

Offer

Gwrthrychau Taflu: Bagiau Ffa, Peli Boccia, Rampiau

Targedau: Cylchoedd, Conau, Sialc, Casys Gobennydd, Bocsys, Poteli Llefrith Plastig, Sgitls, Meinciau, Cadeiriau

Sut i Chwarae

Gall disgyblion i gyd chwarae gyda’i gilydd


  • Dewiswch darged i bob disgybl anelu ato. Gellir defnyddio marciau llinell mewn mannau dan do neu yn yr awyr agored.
  • Mae disgyblion yn ceisio cael eu gwrthrych mor agos at y targed â phosibl.

Ystyriaethau o ran Namau

Yn y tabl isod mae canllawiau ar sut i gynnwys dysgwyr â gwahanol namau yn y wers ond y ffordd orau o gynnwys dysgwr anabl yw drwy ddod i wybod am ei allu swyddogaethol a’r hyn y GALL EI WNEUD. Bydd hyn yn ei alluogi i gael profiad gwych mewn gwers AG.

Awtistiaeth

Rhoi amser i’r disgybl brosesu’r wybodaeth
Rhoi amser iddo roi cynnig ar y gweithgaredd cyn rhoi rhai pwyntiau addysgu
Peidio â defnyddio idiomau na throsiadau
Osgoi dibynnu ar ystum, mynegiant wyneb neu dôn llais
Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr
Bod yn ymwybodol o sensitifrwydd i sŵn / golau

Dall / Nam ar y Golwg

Darganfod lefel golwg disgyblion
Cynnig ystod o offer sy’n cynnwys gwahanol liwiau
Y defnydd o sain i helpu disgyblion i gymryd rhan e.e. cloch neu gyfarwyddiadau llafar
Cynnig tywysydd neu gyfaill
Disgyblion eraill i wisgo bibiau llachar

Byddar / Nam ar y Clyw

Lleoli eich hun fel bod y disgybl yn gallu eich gweld chi
Siarad yn glir ac yn gryno i gefnogi darllen gwefusau
Rhoi arddangosfa o bob gweithgaredd
Ysgrifennu cyfarwyddiadau
Cytuno ar signalau ar gyfer dechrau a stopio gweithgaredd
Defnyddio technoleg i roi arddangosfa

Anabledd Dysgu

Arddangos pob gweithgaredd
Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr
Rhannu’r gweithgareddau yn adrannau llai
Cadarnhau ansawdd y symud
Marcwyr llawr i helpu disgyblion i wybod i ble i symud

Nam Corfforol

Gellir perfformio gweithgaredd yn eistedd
Ar gyfer chwaraewyr llai deheuig, ystyriwch symud yn arafach
Newid cyfeiriad yw’r ffocws
Llwybr arall neu bellter byrrach i symud

Defnyddiwr Cadair Olwyn

Llwybr arall neu bellter byrrach i symud
Ystyried symud yn arafach
Newid cyfeiriad yw’r ffocws


SMILES

Gwnewch yn siŵr bob amser bod cyfleoedd a phrofiadau mewn Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn cydymffurfio ag ethos SMILES (edrychwch ar y Cyfarwyddyd Cynllun Gwers)

Diogel - corfforol, cymdeithasol ac emosiynol

Cyfranogiad Gorau Posibl - cynhwysiant

Wedi'i gynnwys - llais y dysgwr

Canolbwyntio ar ddysgu

Mwynhad

Ffocws ar Lwyddiant



Lawrlwythwch PDF Cynllun Gwers BocciaLawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Gymnasteg

Cynllun Gwers Gymnasteg



01 Gêm Peiriant Golchi

02 Gêm Goleuadau Traffig

03 Gêm Ffa


Dolen at y pedwar diben:
Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers hon yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • datblygu hyder a chymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon i ddod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • datblygu cymhelliant, gwytnwch, a gallu i wneud penderfyniadau i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • rheoli risgiau, mynegi syniadau, cymryd rhan mewn gwaith tîm, ymgymryd â gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau, i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd drwy ddatblygu eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers ganlynol yn cefnogi’r dysgu a ddisgrifir yn y datganiad o’r Hyn sy'n Bwysig:
Mae datblygu iechyd a lles ein corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Yn benodol, mae'r cynllun gwers hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Cam Cynnydd 1

Mae gen i'r hyder a'r cymhelliant i symud mewn gwahanol ffyrdd ac rwy'n dechrau datblygu rheolaeth ar symudiadau motor mawr a manwl mewn gwahanol amgylcheddau, gan symud yn ddiogel mewn ymateb i gyfarwyddiadau.


Sgiliau a ddatblygir:

Newid o un siâp i un arall wrth ddefnyddio ein dychymyg, wrth wrando ar wahanol eiriau / synau, hefyd symud o gwmpas gofod. 


Bwriad Dysgu

Rydym yn dysgu newid siâp ein corff mewn ymateb i wahanol giwiau geiriol / gweledol, gan gynnal tensiwn y corff, canolbwyntio ar reoli'r corff, i ddangos siapiau.   


Meini Prawf Llwyddiant

  1. Gallaf wrando ar gyfarwyddiadau, i ddangos amrywiaeth o siapiau
  2. Gallaf symud o amgylch yr ystafell mewn gwahanol ffyrdd, gan gofio nifer cynyddol o wahanol siapiau a geiriau / cysylltiadau gweledol
  3. Gallaf deithio o amgylch yr ystafell a newid o un siâp i un arall
  4. Rydw i wedi cynyddu fy rheolaeth dros fy symudiadau

STEP






Gweithgareddau

01 Gêm Peiriant Golchi

Waching Machine Game illustration

Offer

Ardal gwag, offer i chwarae cerddoriaeth

Sut i Chwarae

  • Nod cyffredinol y sesiwn yw newid siapiau i wahanol siapiau dillad yn dibynnu ar yr hyn y mae'r athrawon yn ei ddweud.
  • "Rhwng siapiau byddwch wedi symud o amgylch yr ystafell neu arddangos symudiadau gwahanol mewn gwahanol ffyrdd. "
  • "Gallai ffyrdd o symud o amgylch yr ystafell neu rhwng siapiau dillad fod: cerdded, neidio, sgipio NEU ddwylo jazz, bysedd yn fflipio, ochr yn ochr â'r corff tro"
  • Tra byddwch yn symud, fydd yr athro yn alw eitem o ddillad allan, pan fyddaf yn gweiddi'r eitem hon, mae angen i chi; sefyll yn llonydd a mynd i siâp yr eitem honno o ddillad.

Siapiau dillad:
  • Crys T: sefyll/eistedd yn uchel gyda breichiau i'r ochr fel siâp T.
  • Sanau: eistedd ar y llawr gyda breichiau i'r nenfwd a choesau allan o flaen y corff - gwneud siâp L
  • Sgarff: sefyll/eistedd yn uchel mewn siâp syth, gyda breichiau i'r nenfwd , rwy'n siapio
  • Trowsus: Sefyll/eistedd gyda choesau ar wahân, neu bwyntio at drowsus, i fyny i lawr siâp Y, breichiau wedi'u croesi o flaen y frest.
  • Menig: sefyll/eistedd yn llonydd, dangos dwylo Jazz
  • Bobble Hat: Tynnu enfys uwchben eich pen, gellir tynnu allan o'ch blaen hefyd
  • Wrth i'r athro/athrawes gweiddi PEIRIANT GOLCHI lle, fydd rhaid i chi roi'r gorau i symud, a sbio o gwmpas yn y fan a'r lle fel peiriant golchi,neu ddefnyddio dwylo i wneud y symudiad bobbin gyda breichiau ymlaen neu yn ôl

02 Gêm Goleuadau Traffig

Traffic Lights illustration

Offer

Ardal gwag, offer i chwarae cerddoriaeth, ddefnyddio goleuadau lliw gwahanol (COCH/AMBR/GWYRDD)

Sut i Chwarae

  • Nod cyffredinol y sesiwn yw newid i wahanol siapiau yn dibynnu ar ba liwiau y mae'r athrawon yn eu dweud
  • Rhwng siapiau bydd yn rhaid i chi wneud gwahanol bethau yn y fan a'r lle, er enghraifft efallai y bydd eich athro/athrawes yn gofyn i chi gylchu braich, gwneud sgwarnog, gwneud sbin
  • Pan fydd athro'n dweud COCH bydd disgyblion yn mynd i gylchu breichiau i fyny a heibio clustiau ac o amgylch ysgwyddau
  • Pan fydd athro yn dweud AMBR bydd disgyblion yn dangos siâp syth neu naid syth i fyny
  • Pan fydd yr athro yn dweud GWYRDD bydd disgyblion yn dangos siâp seren neu naid seren
  • Pan fydd yr athro yn gweiddi HEDDLU fydd disgyblion yn chwifio breichiau a choesau o gwmpas yn tynnu wyneb gwirion

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach
Gwneud popeth yn yr unfan mewn un lle. Symud o gwmpas ystafell neu wneud y ceisiadau rhwng siapiau’n rhai sy’n pontio
Tasg
Haws Anoddach

Newid y siapiau, neu roi mwy o amser rhwng newid siâp.

Gwneud y newid siapiau’n gyflymach.

Offer
Haws Anoddach

Gellir gwneud pob siâp dim ond yn eistedd ar y llawr.

Peidio â defnyddio geiriau, dim ond gweithredoedd, a gweld a all pobl ifanc ddilyn y gêm, yn lle cyfarwyddyd geiriol. Defnyddio goleuadau yr un lliw â goleuadau traffig.

Pobl
Haws Anoddach
Rhoi disgyblion mewn parau, gallant gopïo siapiau ei gilydd. Pobl ifanc i weithio’n annibynnol.

03 Gêm Ffa

Bean Game illustration

Offer

Gofod, cerddoriaeth, lluniau o ffa, neu sgarffiau lliw.

Sut i Chwarae

  • Disgyblion yn cymryd rhan mewn ardal wedi’i marcio
  • Bydd yr athro’n gweiddi enwau gwahanol fathau o ffa
  • Mae gan bob math o ffa symudiad gwahanol yn gysylltiedig â hwy
  • Rhaid i’r disgyblion berfformio'r symudiad
  • Ffa Pob - eistedd yn eich cwman gyda’r pengliniau i fyny at yr ên, breichiau'n cofleidio’r pengliniau (neu ddim ond cofleidio’r torso)
  • Ffa llydan - gwneud y corff mor fawr â phosib, ymestyn y breichiau allan i'r ochr ac ymestyn y coesau allan (neu ddim ond y breichiau)
  • Ffa jeli - rhwbio'r torso (bol) gyda chledrau'r dwylo (ychydig fel Pepa Pig)
  • Ffa rhedeg - loncian / symud y breichiau yn yr unfan (neu ddim ond symud y breichiau)
  • Ffa fflat - Creu siâp gwastad gan ddefnyddio'ch corff
  • Ffa disgo - dawnsio dull rhydd

Ystyriaethau i Namau:

Yn y tabl isod mae cyfarwyddyd ar sut i gynnwys pobl â gwahanol namau yn y wers ond y ffordd orau o gynnwys disgybl anabl yw drwy ddod i wybod am ei allu swyddogaethol a’r hyn y GALL EI WNEUD. Bydd hyn yn eu galluogi i gael profiad gwych mewn gwers AG.

Awtistiaeth

Gadael digon o amser rhwng cyfarwyddyd i ddisgyblion brosesu gwybodaeth, gwirio dealltwriaeth yn barhaus.

Rhoi cyfle i'r disgyblion roi cynnig ar y siapiau gyda chi cyn i'r gweithgaredd ddechrau.

Defnyddio gwybodaeth glir a chryno, peidio â defnyddio jargon.

Ystyried arddull ddysgu unigol pawb, peidio â dibynnu ar fynegiant wyneb ac ati yn unig.

Bod yn ymwybodol o sensitifrwydd i sŵn / golau.

Dall / Nam ar y Golwg

Dod i wybod beth yw lefel golwg y disgyblion.

Sicrhau bod yr ystafell / gofod wedi'i oleuo'n dda.

Cynnig amrywiaeth o offer sy'n cynnwys gwahanol liwiau neu'n dangos lluniau o siapiau dillad.

Cynnig amrywiaeth o wahanol luniau, ystyried cael siapiau dillad bach wedi'u torri allan yn gysylltiedig â’r siapiau.

Y defnydd o sain i helpu disgyblion i gymryd rhan e.e. cloch, corn, clapio neu gyfarwyddiadau llafar.

Cynnig tywysydd neu gyfaill.

Disgyblion eraill i wisgo bibiau llachar.

Gellir defnyddio cerddoriaeth fel awgrymiadau ynghylch pryd i newid siapiau a phryd i symud.

Byddar / Nam ar y Clyw

Lleoli eich hun fel bod y disgybl yn gallu eich gweld chi.

Sicrhau bod y gofod / ystafell wedi'i goleuo'n dda.

Siarad yn glir ac yn gryno i gefnogi darllen gwefusau.

Darparu arwyddwr yn bosibl.

Dangos arddangosfa ar gyfer pob gweithgaredd a chaniatáu amser i ddisgyblion roi cynnig ar y gwahanol siapiau.

Defnyddio Cardiau Ciw neu sgarffiau o wahanol liwiau ar gyfer trawsnewid siapiau.

Cytuno ar signalau ar gyfer dechrau a stopio gweithgaredd.

Defnyddio fideos o'r nod cyffredinol i arddangos.

Anabledd Dysgu

Arddangos yr holl weithgareddau, gan ddefnyddio lluniau, fideos ac efallai dillad go iawn.

Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr.

Rhannu gweithgareddau yn adrannau llai, gan ddefnyddio llai o ddillad i siapiau fod yn gysylltiedig â nhw, gan adeiladu ar gyfer mwy o ddillad ar gyfer cynnydd mewn anhawster.

Cadarnhau’r elfen hwyl, ychwanegu wynebau hwyliog.

Cynnig amrywiaeth o offer i ddisgyblion er mwyn sicrhau llwyddiant. Efallai y gallai pwyntio at ddillad fod yn ddigon i rai disgyblion.

Marcwyr llawr i helpu disgyblion i wybod i ble i symud … ac i ba gyfeiriad i symud o amgylch yr ystafell.

Nam Corfforol

Gellir perfformio gweithgaredd yn eistedd.

Ar gyfer chwaraewyr llai deheuig, lleihau cywirdeb y siapiau.

Llwybr arall neu bellter byrrach i symud, sicrhau bod y gofod o amgylch yr ystafell yn ddigonol ar gyfer symud.

Sicrhau bod yr amser a neilltuir ar gyfer symud o amgylch yr ystafell rhwng newidiadau siâp yn ddigon i bawb sy'n cymryd rhan.

Defnyddiwr Cadair Olwyn

Gellir gwneud pob symudiad yn eistedd.

Rowndiau bob yn ail fel bod rhai’n cael eu gwneud yn eistedd ac eraill yn symud o amgylch yr ystafell.

Sicrhau bod digon o le i bawb symud o gwmpas yn rhydd.


SMILES

Gwnewch yn siŵr bob amser bod cyfleoedd a phrofiadau mewn Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn cydymffurfio ag ethos SMILES (edrychwch ar y Cyfarwyddyd Cynllun Gwers)

Diogel - corfforol, cymdeithasol ac emosiynol

Cyfranogiad Gorau Posibl - cynhwysiant

Wedi'i gynnwys - llais y dysgwr

Canolbwyntio ar ddysgu

Mwynhad

Ffocws ar Lwyddiant



Lawrlwythwch PDF Cynllun Gwers GymnastegLawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Athletau

Cynllun Gwers Athletau



01 Allwch Chi Fod Yn..?

02 Cerrig Sarn

03 Naid Dros y Nant

04 Rhedeg Ardref


Dolen at y pedwar diben:
Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers hon yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • datblygu hyder a chymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon i ddod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • datblygu cymhelliant, gwytnwch, a gallu i wneud penderfyniadau i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • rheoli risgiau, mynegi syniadau, cymryd rhan mewn gwaith tîm, ymgymryd â gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau, i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd drwy ddatblygu eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers ganlynol yn cefnogi’r dysgu a ddisgrifir yn y datganiad o’r Hyn sy'n Bwysig:
Mae datblygu iechyd a lles ein corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Yn benodol, mae'r cynllun gwers hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Cam Cynnydd 1

Mae gen i'r hyder a'r cymhelliant i symud mewn gwahanol ffyrdd ac rwy'n dechrau datblygu rheolaeth ar symudiadau motor mawr a manwl mewn gwahanol amgylcheddau, gan symud yn ddiogel mewn ymateb i gyfarwyddiadau.


Bwriad Dysgu

Rydym yn dysgu newid siâp ein corff mewn ymateb i wahanol giwiau geiriol / gweledol, gan gynnal tensiwn y corff, canolbwyntio ar reoli'r corff, i ddangos siapiau.   


Meini Prawf Llwyddiant

  1. Gallaf wrando ar gyfarwyddiadau, i ddangos amrywiaeth o siapiau
  2. Gallaf symud o amgylch yr ystafell mewn gwahanol ffyrdd, gan gofio nifer cynyddol o wahanol siapiau a geiriau / cysylltiadau gweledol
  3. Gallaf deithio o amgylch yr ystafell a newid o un siâp i un arall
  4. Rydw i wedi cynyddu fy rheolaeth dros fy symudiadau

STEP






Gweithgareddau

01 Allwch Chi Fod Yn..?

Allwch Chi Fod Yn..? illustration

Offer

Conau, Iluniau o aniteiliaid.

Sut i Chwarae

Yr hyfforddwyr i ddefnyddio lluniau'r anifeiliaid i annog trafodaeth gyda'r plant ynglŷn â'r ffordd y mae gwahanol anifeiliaid yn symud. Yr hyfforddwr i ofyn i'r plant symud fel anifeiliaid penodol

e.e. Allwch chi fod...

  • yn llyffant,
  • mor dal â jiráff,
  • yn granc,
  • mor gyflym â llewpart hela,
  • yn bengwin,
  • yn gangarŵ ac ati.

Ceisiwch ddewis anifeiliaid sy'n rhoi her i'r plant symud mewn gwahanol ffyrdd. Yr hyfforddwr i adael i'r plant arbrofi gyda symud fel anifeiliaid o'u dewis.

Edrychwch a yw'r plant yn gallu:

  • Symud mewn ffordd sy'n dangos rheolaeth sylfaenol o' corff.
  • Arbrofi â gwahanol batrymau symud drwy ddarganfod a chwarae eu hunain.
  • Cydsymud eu corff i symud fel yr anifail a ddisgrifir.

02 Cerrig Sarn

Cerrig Sarn illustration

Offer

Smotiau

Sut i Chwarae

Rhannwch y plant yn grwpiau bach, gan geisio rhoi plant o daldra/hyd cam tebyg gyda'i gilydd.
Y plant i osod 4-6 o smotiau 'cerrig sarn' mewn llinell o flaen eu grŵp, gan gadw'r un pellter rhwng bob un o'r 'cerrig'. Y plant i arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o symud ar draws y 'cerrig sarn' e.e. hopian ar y naill goes a'r llall, neidio oddi ar ddwy droed i ddwy droed, cyfuniad o hopian a neidio.
Yr hyfforddwr i egluro patrymau penodol y gellir eu dilyn e.e. naid, naid, hop, hop, naid; hop, cam, naid, hop, cam, naid. Gadewch 'r plant greu eu cyfuniad eu hunain o batrymau.

I annog cysondeb o ran y thema anifeiliaid drwy gydol y sesiwn, gofyn i’r dysgwyr symud fel anifeiliaid sy’n symud rhwng y conau / smotiau (anogir effeithiau sain!), e.e., llyffant, cwningen, cangarŵ ac ati.

Edrychwch a yw'r plant yn gallu:

  • Neidio ymlaen ac yn ôl oddi ar ddwy droed i ddwy droed.
  • Neidio oddi ar ddwy droed i ddwy droed wrth symud i'rochr.
  • Hopian yn hyderus a dan reolaeth ar goes 'u dewis ac ar y goes wannach.
  • Neidio a hopian o A i B dan reolaeth.
  • Glanio yn feddal - plygu'r pengliniau er mwyn clustogi effaith y glanio.
  • Perfformio cyfuniadau o hopian (ar y ddwy droed) a neidio gyda chydbwysedd a chydsymudiad.

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach
Lleihau’r pellter rhwng y smotiau / conau.  Cynyddu’r pellter rhwng y smotiau / conau.
Tasg
Haws Anoddach
Gadael i ddysgwyr archwilio gwahanol ffyrdd o symud ar draws y smotiau e.e., naid, hop, step, 1 droed i 2 droed, 2 droed i 2 droed Herio dysgwyr i hopian o smotyn i smotyn      Cyflwyno gwahanol gyfuniadau neidio ee. naid, naid, hop, step, hop ar draws y smotiau.
Offer
Haws Anoddach
Ystyried codau lliw ar gyfer y smotiau i helpu gyda chyfarwyddiadau e.e., smotyn coch = glanio ar 2 droed, smotyn glas = glanio ar 1 droed Amherthnasol
Pobl
Haws Anoddach
Grwpio dysgwyr o allu tebyg. Grwpio dysgwyr o allu tebyg. Gan weithio mewn parau gall y plant edrych am naid / symudiad cywir yn cael ei gwblhau

03 Naid Dros y Nant

Naid Dros y Nant illustration

Offer

Sialc / matiau / Ilinellau i'w good ar lawr

Sut i Chwarae

Gosodwch yr offer a ddewiswyd mewn siâp 'V' (gweler y diagram) er mwyn creu 'glannau'r afon' gyda 'nant' yn y canol.
Dylair plant neidio dros yr offer heb sefyll yn y 'nant'.
Caiff y plant ddewis lle i ddechrau ar lan yr afon, e.e. y pen cul = llai o naid, y pen llydan = mu o naid.

Dull: Rhedeg a neidio
Neidio am bellter ar bwynt ehangach gan ddechrau ar bwynt cul
Dull: Hopian ac wedyn llamu
Carlamu a llamu
Rhedeg a neidio i lanio ar y ddwy droed
Dull: Sgipio i hopian dros yr afon
Sgipio i hopian dros yr afon
Defnyddiwr cadair olwyn: Creu pont i groesi
Efallai bod gan y bont fynedfa ac allanfa wahanol. Symud ymlaen ac ar draws ymlaen ac yn ôl. Troelli ar y bont

Edrychwch a yw'r plant yn gallu:

  • Neidio oddi ar ddwy droed a glanio ar ddwy droed ymlaen ac yn ôl.
  • Glanio mewn ffordd gytbwys, dan reolaeth.
  • Neidio o A i B dan reolaeth.
  • Hopian o A i B dan reolaeth.
  • Glanio'n feddal - plygu'r pengliniau er mwyn clustogi effaith y glanio.

04 Rhedeg Ardref

Touch the Base illustration

Offer

Llawer o gonau neu smotiau lliwgar.

Sut i Chwarae

Gwasgarwch y conau neu'r smotiau lliwgar o gwmpas y man chwarae.
Y plant i loncian o gwmpas y man chwarae a phan fydd yr hyfforddwr yn galw un O'r Iliwiau, rhaid i'r plant sbrintio i'r côn/smotyn agosaf o'r Iliw hwnnw.

I annog cysondeb o ran y thema anifeiliaid drwy gydol y sesiwn, gofyn i’r plant symud fel anifeiliaid sy’n neidio (anogir effeithiau sain!), ee. llyffant, cwningen, cangarŵ ac ati.

Edrychwch a yw'r plant yn gallu:

  • Newid cyfciriad wrth redeg fel rhan o' gêm.
  • Cydsymud y breichiau a' coesau wrth redeg.
  • Rhoi cynnig ar wahanol batrymau symud pan fo' hyfforddwr yn eu cyflwyno e.e. carlamu, sgipio, neidio.

Cam ymlaen:

  • Cynyddu/lleihau cyflymder y gorchmynion a roddir.
  • Cynyddu/lleihau cyflymder y gweithgaredd/symud.
  • Ychwanegu ffyrdd gwahanol o symud o gwmpas.

Ystyriaethau i Namau:

Yn y tabl isod mae cyfarwyddyd ar sut i gynnwys pobl â gwahanol namau yn y wers ond y ffordd orau o gynnwys disgybl anabl yw drwy ddod i wybod am ei allu swyddogaethol a’r hyn y GALL EI WNEUD. Bydd hyn yn eu galluogi i gael profiad gwych mewn gwers AG.

Awtistiaeth

Rhoi amser i'r dysgwr brosesu'r wybodaeth.

Rhoi amser iddo roi cynnig ar y gweithgaredd cyn rhoi rhai pwyntiau addysgu.

Peidio â defnyddio idiomau na throsiadau.

Osgoi dibynnu ar ystum, mynegiant wyneb neu dôn llais.

Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr a’r iaith yn syml.

Bod yn ymwybodol o sensitifrwydd i sŵn / golau.

Cyfyngu ar unrhyw sŵn cefndir a tharfu arall yn arbennig yn ystod cyfarwyddiadau.

Rhoi rheolau diogelwch yn glir ac yn ofalus er mwyn osgoi anaf.

Sicrhau bod dechrau a diwedd clir i weithgareddau.

Rhoi rhybudd am unrhyw newidiadau sydd i ddod i helpu i ragweld beth ddaw nesaf.

Dall / Nam ar y Golwg

Dod i wybod beth yw lefel golwg y dysgwyr.

Cynnig amrywiaeth o offer sy'n cynnwys gwahanol liwiau.

Cynnig amrywiaeth o offer sy'n cynnwys gwahanol feintiau e.e. conau neu smotiau mwy.

Y defnydd o sain i helpu dysgwyr i gymryd rhan e.e. chwiban i ddechrau, cyfarwyddiadau llafar.

Cynnig tywysydd neu gyfaill.

Dysgwyr eraill i wisgo bibiau llachar.

Sicrhau bod y dysgwyr yn dechrau’r gweithgaredd yn wynebu'r cyfeiriad cywir ac yn gwybod ble mae mewn perthynas â'r ardal weithgarwch.

Byddar / Nam ar y Clyw

Lleoli eich hun fel bod y dysgwr yn gallu eich gweld chi, dylai dehonglwyr sefyll wrth ymyl yr hyfforddwr.

Siarad yn glir ac yn gryno i gefnogi darllen gwefusau.

Rhoi arddangosfa ar gyfer pob gweithgaredd.

Ysgrifennu cyfarwyddiadau.

Cytuno ar signalau ar gyfer dechrau a stopio gweithgaredd.

Defnyddio gwrthrychau / signalau gwahanol liwiau i nodi newidiadau yn ystod gweithgaredd e.e. neidio, hopian.

Defnyddio technoleg i roi arddangosfa.

Anabledd Dysgu

Dangos yr holl weithgareddau.

Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr.

Rhannu gweithgareddau yn adrannau llai.

Cadarnhau'r angen am symudiadau cywir nid cyflymder.

Marcwyr llawr i helpu’r dysgwyr i wybod i ble i symud.

Nam Corfforol

Cynnig pellter byrrach i symud.

Ystyried cyflwyno cyfyngiad amser i gwblhau tasg i ganolbwyntio ar y weithred ffrwydrol.

Gall unigolion sydd wedi colli un goes wneud neidiau fertigol a llorweddol heb eu coes brosthetig - os ydynt yn cael anhawster gyda'u prosthesis.

Mae hopian ar yr ochr brosthetig yn anodd - annog y sawl sydd wedi colli ei goes i ddefnyddio’r aelod sydd yn ei le.

Wrth gymryd rhan mewn neidiau, sicrhau bod dysgwyr yn codi ac yn glanio ar y goes sydd yn ei lle.

Defnyddiwr Cadair Olwyn

Mae neidio yn symudiad ffrwydrol, a gellir ailadrodd hyn ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn drwy roi cyfyngiad amser i blant fynd o un pwynt i'r llall ac wedyn stopio'n syth pan maent yn cyrraedd y pwynt hwnnw.

Cynnig pellter byrrach neu hirach i symud, yn dibynnu ar y dysgwr.

Gellir ailadrodd sgiliau symud drwy ddefnyddio gwahanol gyfresi i wthio ee. gwthiad braich chwith, gwthiad braich dde, gwthiad y ddwy fraich. Bydd cyflwyno cyfyngiad amser a stop cyflym yn ailadrodd y weithred ffrwydrol. Sicrhau bod digon o le o amgylch y plentyn i wneud gwthiad un fraich yn ddiogel.

Sicrhau bod y gofod yn caniatáu i ddysgwyr symud o gwmpas yn hawdd.

Os nad oes teclyn gwrthwyro wedi'i ffitio, lleihau’r risg y bydd y gadair yn gwyro’n ôl yn ystod gweithgaredd e.e., lleihau cyflymder a throadau cyflym.

Chwilio am ben a chorff llonydd, a symudiad braich hirgrwn ar gyfer techneg wthio dda.

Corachedd

Mae stenosis sbinol (culhau ar lwybr asgwrn y cefn) yn gyffredin a gall achosi anawsterau nerfol yn aelodau isaf y corff. O ganlyniad, dylid osgoi unrhyw effaith sioc drwy ardaloedd sbinol rhan isaf ac uchaf y corff.

Dylai ardaloedd glanio o neidiau fod yn feddal er mwyn osgoi effaith ar waelod asgwrn y cefn e.e., glaswellt, tywod, mat.

Efallai y bydd gan rai plant broblemau gyda balans oherwydd eu bod yn drwm yn rhan uchaf y corff felly gall hopian fod yn anodd i’w berfformio, a glanio'n ddiogel.

Ystyried hyd llam llai plentyn sydd â chorachedd ac efallai caniatáu camau ychwanegol rhwng un parth a'r llall.

Lleihau nifer yr ailadrodd er mwyn osgoi goreffaith.

Rhoi amser ychwanegol i ddysgwr â chorachedd i gwblhau'r gêm / dasg.


SMILES

Gwnewch yn siŵr bob amser bod cyfleoedd a phrofiadau mewn Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn cydymffurfio ag ethos SMILES (edrychwch ar y Cyfarwyddyd Cynllun Gwers)

Diogel - corfforol, cymdeithasol ac emosiynol

Cyfranogiad Gorau Posibl - cynhwysiant

Wedi'i gynnwys - llais y dysgwr

Canolbwyntio ar ddysgu

Mwynhad

Ffocws ar Lwyddiant



Lawrlwythwch PDF Cynllun Gwers AthletauLawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Aml-Chwaraeon

Cynllun Gwers Aml-Chwaraeon



01 Syth a Sgwâr

02 Pasio i Sgorio Tîm

03 Giatiau a Siarcod

04 Pêl Cylch

05 Mynd i Hela

06 Gwe Pryf Cop!


Dolen at y pedwar diben:
Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers hon yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • datblygu hyder a chymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth drwy weithgarwch corfforol a chwaraeon i ddod yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • datblygu cymhelliant, gwytnwch, a gallu i wneud penderfyniadau i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • rheoli risgiau, mynegi syniadau, cymryd rhan mewn gwaith tîm, ymgymryd â gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau, i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd drwy ddatblygu eu gallu i ddangos parch, gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant, gwrando ar eraill a gwerthuso’r dylanwadau cymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r gweithgareddau a'r profiadau a ddisgrifir yn y wers ganlynol yn cefnogi’r dysgu a ddisgrifir yn y datganiad o’r Hyn sy'n Bwysig:
Mae datblygu iechyd a lles ein corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Yn benodol, mae'r cynllun gwers hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Cam cynnydd 3

Rwy’n gallu datblygu a chymhwyso ystod o sgiliau mewn sefyllfaoedd cyfarwydd, anghyfarwydd a chyfnewidiol, gan archwilio gofod yn greadigol mewn ymateb i amrywiaeth o symbyliadau. Rwy’n gallu ysgogi fy hun i ymwneud â gweithgareddau corfforol cyson a chwaraeon yn hyderus, ac rwy’n ymwybodol o’m cynnydd fy hun.


Sgiliau a Ddatblygir

Symud i ofod mewn gemau ymosod


Bwriad Dysgu

Rydym yn dysgu sut i greu gofod mewn gemau ymosod


Meini Prawf Llwyddiant

  1. Symud i ofod i dderbyn gwrthrych
  2. Anfon a derbyn gwrthrych yn llwyddiannus heb i amddiffynnwr ryng-gipio
  3. Cydweithio fel rhan o dîm i greu gofod

STEP

(Space, Task, Equipment, People // Gofod, Tasg, Offer, Pobl)

Gofod
Gellir naill ai gynyddu neu leihau'r ardal chwarae. Gellir gosod cyfyngiadau ar symud i mewn ac allan o rai ardaloedd i annog perfformio tactegau neu dechnegau.
Tasg
Gellir cynyddu neu leihau'r amser a ganiateir i gwblhau tasg.
Offer
Dylai ystod o offer fod ar gael i ddysgwyr. Mae'n hollbwysig creu hinsawdd lle mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel i hunan-ddewis yr offer mwyaf priodol. Bydd ystod o wahanol offer neu offer wedi'i addasu yn cefnogi’r dysgwyr i brofi llwyddiant a sicrhau cynnydd mewn dysgu.
Pobl
Gall grwpio dysgwyr gefnogi’r dysgu. Grwpiau llai neu grwpiau mwy.





Gweithgareddau

01 Syth a Sgwâr

Syth a Sgwâr illustration

Offer

Peli troed a phêl rwyd / pêl llaw

Sut i Chwarae

Ar gyfer y gêm gyntaf chwarae gyda’r bêl yn y llaw.

  • Grwpiau o 4 (3 ymosodwr, 1 amddiffynnwr)
  • Mae’r ymosodwyr yn gweithio fel tîm i gyflawni'r nifer fwyaf o basys
  • Pwynt yn cael ei sgorio am y nifer o basys cyn i'r amddiffynnwr ryng-gipio'r bêl
  • Mae’r ymosodwyr yn gweithio i symud i'r gofod (parthau) i gefnogi’r chwaraewr sydd â meddiant, yr amddiffynnwr yn gweithio i ryng-gipio

Ailadrodd y gêm eto ond gyda’r bêl ar y ddaear; defnyddio peli troed.

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach

Lleihau’r gofod rhwng y parthau

Cynyddu’r gofod rhwng y parthau

Tasg
Haws Anoddach

Gallant basio yn lletraws, yn syth neu’n sgwâr

Dim ond pasio’n syth neu’n sgwâr

Offer
Haws Anoddach

Cynyddu nifer y parthau

Lleihau nifer y parthau (dim ond un parth rhydd)

Pobl
Haws Anoddach

Lleihau nifer yr amddiffynwyr

Cynyddu nifer yr amddiffynwyr

02 Pasio i Sgorio Tîm

Pasio i Sgorio Tîm illustration

Offer

Peli rhwyd / peli llaw

Sut i Chwarae

Chwarae’r gêm gyda’r bêl yn y llaw.

  • Y chwaraewyr yn gweithio fel tîm i gwblhau nifer o basys yn eu timau.
  • Ar ôl pob set wedi'i chwblhau, ychwanegir amddiffynnwr.
  • Ar ôl cwblhau, bydd y timau'n gweithio mewn gridiau 4v4.
  • Tîm sy'n cwblhau 4 pas lwyddiannus yn sgorio 1 pwynt.

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach

Cynyddu maint yr ardal

Lleihau maint yr ardal

Tasg
Haws Anoddach

Lleihau nifer y pasys

Cynyddu nifer y pasys, manylu ar y math o basys

Offer
Haws Anoddach

Pêl fwy

Pêl lai (ee tennis)

Pobl
Haws Anoddach

Lleihau nifer yr amddiffynwyr sy’n cael eu hychwanegu

Cynyddu nifer yr amddiffynwyr sy’n cael eu hychwanegu

03 Giatiau a Siarcod

Giatiau illustration

Offer

Uni-hoc/ffyn hoci a pheli llif aer

Sut i Chwarae

  • Mewn parau, rhifo ei gilydd yn chwaraewr 1 a chwaraewr 2
  • Mae chwaraewr 1 yn driblo'r bêl tuag at set o gonau sydd wedi'u gosod yn agos at ei gilydd (giatiau)
  • Mae chwaraewr 1 yn pasio'r bêl drwy'r Giât i Chwaraewr 2 sydd wedi symud i'r gofod yr ochr arall yn barod i dderbyn y bêl
  • Wedyn mae Chwaraewr 2 yn driblo'r bêl i Giât arall
  • Ceisio cwblhau cymaint o giatiau â phosib
  • Bydd amddiffynwyr (Siarcod) yn arnofio o amgylch yr ardal yn ceisio rhyng-gipio'r bêl

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach

Cynyddu maint yr ardal

Lleihau maint yr ardal

Tasg
Haws Anoddach

Dim amser penodol a gadael iddynt ei wneud heb bwysau amser

Gosod amser a rhaid i’r parau gyfrif faint o giatiau maent yn mynd drwyddynt

Offer
Haws Anoddach

Pêl Fwy / Feddalach. Gellir defnyddio dwy ochr y ffon hoci.

Pêl Hoci

Pobl
Haws Anoddach

Lleihau nifer yr amddiffynwyr

Cynyddu nifer yr amddiffynwyr

04 Pêl Cylch

Pêl Cylch illustration

Offer

Peli rhwyd / pêl llaw

Sut i Chwarae

Chwarae’r gêm gyda’r bêl yn y llaw.

  • Timau o 6, yn gweithio i sgorio o fewn cylchoedd.
  • Mae’r timau'n pasio'r bêl i chwaraewr tîm sy'n sefyll mewn cylch i sgorio.
  • Rhaid i dimau gwblhau 6 o basys (pob chwaraewr i dderbyn pas) cyn sgorio.
  • I sgorio, rhaid i chwaraewr dderbyn y bêl o fewn y cylch (ni ddylai’r chwaraewyr sefyll yn y cylchoedd am fwy na 3 eiliad)

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach

Cynyddu’r ardal chwarae

Cynyddu’r ardal chwarae

Tasg
Haws Anoddach

Lleihau’r isafswm o basys

Lleihau’r isafswm o basys

Offer
Haws Anoddach

Cynyddu nifer y cylchoedd

Lleihau nifer y cylchoedd

Pobl
Haws Anoddach

Gorlwytho’r ymosod

Gorlwytho’r amddiffyn

05 Mynd i Hela

Mynd i Hela illustration

Offer

Peli troed

Sut i Chwarae

Chwarae’r gêm gyda’r bêl ar y ddaear.

  • Mae dau grŵp o 6 yn gweithio mewn ardaloedd unigol
  • Mae pob chwaraewr wedi'i rifo o 1 i 6 yn eu grŵp
  • Pan elwir chwaraewr â rhif, mae'n gweithio fel amddiffynnwr yn yr ail grŵp (gan greu 5 (ymosod) v 1 (amddiffyn), gyda'r nod o ennill meddiant / rhyng-gipio
  • Yr amddiffynnwr tîm cyntaf i ennill meddiant sy’n cael pwynt

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach

Cynyddu’r ardal chwarae

Cynyddu’r ardal chwarae

Tasg
Haws Anoddach

Gellir defnyddio amrywiaeth o basys

Pennu cyfyngiad amser i’r amddiffynwyr

Offer
Haws Anoddach

Defnyddio pêl fwy

Defnyddio peli llai

Pobl
Haws Anoddach

Galw llai o amddiffynwyr i fynd i geisio ennill meddiant

Gorlwytho’r amddiffyn (galw rhifau lluosog)

06 Gwe Pryf Cop!

Gwe Pryf Cop! illustration

Offer

Uni-hoc/ffyn hoci a pheli llif aer

Sut i Chwarae

  • Wedi'i osod allan gan ddefnyddio conau, un cylch allanol mawr a chylch mewnol llai
  • Mae nifer cyfartal o ymosodwyr yn dechrau y tu allan i'r cylch ehangach (gyda ffon a phêl), gyda nifer o ymosodwyr yn y cylch mewnol (gyda ffon)
  • Mae'r amddiffynwyr hefyd o fewn y cylch allanol (gyda ffon) yn anelu at ryng-gipio unrhyw bas rhwng y ddau grŵp ymosod
  • Mae'r Ymosodwyr sy'n dechrau yn y cylch mewnol yn rhedeg allan i ddod o hyd i le tuag at y chwaraewyr ar y tu allan gyda phêl a derbyn pas, wedyn pasio'n ôl
  • Ar ôl derbyn pasio'r bêl yn ôl i'r chwaraewyr allanol, rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i'r cylch mewnol cyn dod yn ôl allan i'r gofod i dderbyn pas gan chwaraewr gwahanol (mae'r chwaraewyr allanol hefyd yn symud i'r gofod o amgylch yr ardal)
  • Nod y tîm ymosod yw cwblhau cymaint o basys llwyddiannus â phosibl

Addasu anhawster y gêm gan ddefnyddio STEP:


Gofod
Haws Anoddach

Cynyddu’r ardal chwarae

Cynyddu’r ardal chwarae

Tasg
Haws Anoddach

Amddiffynwyr i symud yn arafach (cerdded), Cael gwared ar y cylch mewnol

Gweithgaredd wedi’i amseru yn gysylltiedig â nifer y rhyng-gipio / pasys sy’n cael eu cwblhau.

Offer
Haws Anoddach

Pêl fwy

Defnyddio pêl lai, cynnwys rhwystrau ychwanegol

Pobl
Haws Anoddach

Lleihau nifer yr amddiffynwyr

Cynyddu nifer yr amddiffynwyr

Ystyriaethau i Namau:

Yn y tabl isod mae cyfarwyddyd ar sut i gynnwys pobl â gwahanol namau yn y wers ond y ffordd orau o gynnwys disgybl anabl yw drwy ddod i wybod am ei allu swyddogaethol a’r hyn y GALL EI WNEUD. Bydd hyn yn eu galluogi i gael profiad gwych mewn gwers AG

Awtistiaeth

Rhoi amser i'r dysgwr brosesu'r wybodaeth

Rhoi amser iddo roi cynnig ar y gweithgaredd cyn rhoi rhai pwyntiau addysgu

Peidio â defnyddio idiomau na throsiadau

Osgoi dibynnu ar ystum, mynegiant wyneb neu dôn llais

Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr

Bod yn ymwybodol o sensitifrwydd i sŵn / golau

Dall / Nam ar y Golwg

Dod i wybod beth yw lefel golwg y dysgwyr

Cynnig amrywiaeth o offer sy'n cynnwys gwahanol liwiau

Cynnig amrywiaeth o offer sy'n cynnwys gwahanol feintiau e.e. raced tennis, pêl fwy

Y defnydd o sain i helpu ddysgwyr i gymryd rhan e.e. pêl cloch neu gyfarwyddiadau llafar

Cynnig tywysydd neu gyfaill

Dysgwyr eraill i wisgo bibiau gwrthgyferbyniol

Byddar / Nam ar y Clyw

Lleoli eich hun fel bod y dysgwyr yn gallu eich gweld chi

Siarad yn glir ac yn gryno i gefnogi darllen gwefusau

Rhoi arddangosfa ar gyfer pob gweithgaredd

Ysgrifennu cyfarwyddiadau

Cytuno ar signalau ar gyfer dechrau a stopio gweithgaredd

Defnyddio technoleg i roi arddangosfa

Anabledd Dysgu

Dangos yr holl weithgareddau

Cadw’r cyfarwyddiadau yn fyr

Rhannu gweithgareddau yn adrannau llai

Cadarnhau’r angen am fanwl gywirdeb yn hytrach na chryfder

Cynnig amrywiaeth o offer i ddysgwyr er mwyn cyflawni llwyddiant

Marcwyr llawr i helpu dysgwyr i wybod i ble i symud

Nam Corfforol

Gellir cwblhau gweithgaredd wrth eistedd

Ar gyfer chwaraewyr llai deheuig, ystyriwch ddefnyddio maneg Velcro / maneg

Ar gyfer chwaraewyr llai deheuig, ystyriwch ddefnyddio gwrthrychau hawdd gafael ynddyn nhw e.e. bagiau ffa

Defnyddio offer ysgafnach e.e. ffon hoci blastig

Defnyddio offer mwy er mwyn llwyddo e.e. raced tennis, pêl fwy

Llwybr arall neu bellter byrrach i symud ar ôl pasio’r bêl

Defnyddiwr Cadair Olwyn

Defnyddio offer ysgafnach e.e. bat criced plastig, peli traeth

Defnyddio offer mwy e.e raced tennis, pêl fwy

Llwybr arall neu bellter byrrach i symud ar ôl pasio’r bêl

Cynnig opsiynau eraill wrth basio’r bêl (e.e. rholio yn hytrach na thaflu neu gicio)


SMILES

Gwnewch yn siŵr bob amser bod cyfleoedd a phrofiadau mewn Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn cydymffurfio ag ethos SMILES (edrychwch ar y Cyfarwyddyd Cynllun Gwers)

Diogel - corfforol, cymdeithasol ac emosiynol

Cyfranogiad Gorau Posibl - cynhwysiant

Wedi'i gynnwys - llais y dysgwr

Canolbwyntio ar ddysgu

Mwynhad

Ffocws ar Lwyddiant



Lawrlwythwch PDF Cynllun Gwers Aml-Chwaraeon

#ysbrydoli


A ydych yn frwdfrydig am chwaraeon?

Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 10 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?

Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli

Gallwch cysylltu a’r Tim Llwybr Perfformio drwy ebostio: inspire@disabilitysportwales.com

Disability Sport Wales' Community Partner: SPAR UK and AF Blackmore.

Cyflwynir digwyddiadau Cyfres insport gyda chefnogaeth Partner Cymunedol Chwaraeon Anabledd Cymru: SPAR UK ac AF Blakemore & Son Ltd.

Eich SPAR agosaf

Mae gwasanaeth dosbarthu i’r cartref SPAR

Trwy’r gwasanaeth gan SPAR, mae’n bosib i chi archebu byrbrydau, diodydd, melysion, llysiau a ffrwythau, cynhyrchion cartref, yn ogystal â llawer mwy o'ch hoff hanfodion y gallwch eu cael yn awr heb orfod gadael cysur eich cartref.

Gwasanaeth Dosbarthu i'r Cartref SPAR